Gwaith Ieuenctid ar gyfer Ysgolion, Gwasanaethau Cymdeithasol a Timoedd Troseddwyr Ifanc Addysg Awyr Agored Gwasanaethau Ieuenctid a Chymunedol Amdanom ni

Gwaith Ieuenctid ar gyfer Ysgolion, Gwasanaethau Statudol a Mudiadau Ieuenctid

Cefnogaeth 1:1

Ymyriad Grwp neu Ddosbarth

Atal Gwaharddiad

Cymorth i ddioddefwyr gormesgar a gwaith gyda'r cyflawnwyr

Adeiladu tim a datrys problemau

Ymwybyddiaeth Iechyd

Rhoi'r gorau i smygu

Iechyd rhywiol

Bwyta'n iach

Cyffuriau ac Alcohol

Gweithdai Iechyd Meddyliol ac Emosiynol

Mae Ieuenctid Cambria Youth yn cynnig rhaglennu eang, hyblyg ar gyfer Ysgolion, Gwasanaethau a Mudiadau Ieuenctid, gyda'r nod o rhoi gymorth i bobl ifanc.

 

Darparir y rhaglennu yma dan arweinyddiaeth gweithwyr awyddus, egniol, gyda'r cymwysterau ac agwedd i cefnogi bobl ifanc wrth ddatblygu ei addysg a gweledigiaeth.

 

Ymholiadau arferol:

 

Pam dewis ni?  

Mae gan ein tim dros 30 mlynedd rhyngddom o brofiad gweithio gyda phobl ifanc. Mae cymysgedd o wahanol cefndir, personol a phroffesiynol yn ein plith, sy'n hwyluso ein harbenigedd yn y maes Ieuenctid. Rydym yn hyblyg yn ein darpariaeth, gan ganolbwyntio ar y bobl ifanc ei hunain. 

 

Beth am ddiogelwch?

Rydym yn gweithio'n drylwyr iawn wrth greu asesiadau risg a chynlluniau rheoli diogelwch. Mae cymhwyster 'Rheoli diogelwch i ffwrdd o'r safle' gan pob un o'r staff rheoli, tra bod unrhyw staff eraill yn derbyn cyflwyniad hollol fanwl ar ein cynlluniau diogelwch cyn gweithio gyda phobl ifanc.

Mae pob un o'r staff yn mynd trwy archwiliad CRB.

 

A ydych yn sicrhau safon y gwaith?

Ydyn, mae ganddon ni polisi cyfyng ar ddewis a hyfforddi ein staff. Mae pob un o'n rhaglenni ieuenctid o dan gorwychwiliad gan gweithwraig Ieuenctid cymwysedig er mwyn sicrhau yr ymarfer gorau posib. Rydyn yn adolygu ein gwaith yn rheolaidd.

 

Beth am brisiau?

Rydym yn gwmni preifat bach gyda'r nod o gynnig y gwasanaeth gorau posib i bobl ifanc Cymru.

Nid oes ganddon gostau rhedeg uchel fel swyddfeydd  neu ormod o staff, felly, rydym yn gallu ail-buddsoddi ein harian er mwyn sicrhau costau teg ar gyfer ein cwsmeriaid, blwyddyn ar ol blwyddyn.

 

"Hoffem i chi wybod pa mor werthawr mae ymweliadau Rowan wedi bod i'r ysgol.  Mae'r ffaith fod ei hamserlen wedi llenwi mor gyflym yn dystiolaeth i ymddiried y disgyblion ynddi, yn ogystal a'n hyder ni fel staff yn ei phroffesiynoldeb a'i sgiliau abenigol.

Dr P J Ellis . Ar ran UDRh a Phenaethiaid Blwyddyn, Ysgol Gyfun Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf.

 

 

 

Ieuenctid Cambria Youth Cyf./Ltd., Gamallt, Pentre Uchaf, Tregaron, Ceredigion SY25 6NF

Ffôn / Phone 07813 702982

Gwybodaeth / Information : post@i-c-y.co.uk

Rhif TAW / VAT No. 925 0495 25

Aled Davies

07984 529580

aled@i-c-y.co.uk

Rowan Presland BSc Dip HE

07878 007655

rowan@i-c-y.co.uk

Rhydian Wilson

07813 702982

rhydian@i-c-y.co.uk